Pwyllgor Cyngor Poblogaeth ar gyfer Ymchwil (PARC)

Beth yw PARC?

Mae Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil De-orllewin Cymru (RDCS) yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu prosiectau ymchwil sy’n ateb cwestiynau er lles y rhai sy’n defnyddio eu gwasanaeth. Mae RDCS yn cefnogi’r gweithwyr proffesiynol hyn i gynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth gynllunio a datblygu ymchwil ar gyfer eu treialon. Mae’r cyfnod rhwng yr adeg pan fydd angen mewnbwn cleifion a phan fydd angen mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth yn fyr, felly sefydlwyd y Pwyllgor Cyngor Poblogaeth ar gyfer Ymchwil (PARC).

Mae PARC yn grŵp o bobl sy’n gallu ymateb yn gyflym i geisiadau gan RDCS am gymorth ar ran eu treialon. Mae ganddynt brofiad fel cleifion y GIG, meddyg teulu, neu ysbyty a/neu fel defnyddwyr gwasanaethau gofal iechyd eraill a/neu fel gofalwyr. Gallant roi cymorth wrth lunio ceisiadau am gyllid ymchwil, naill ai drwy e-bost neu drwy fynychu cyfarfodydd yn Abertawe neu’r cyffiniau.

Mae aelodau PARC hefyd yn aelodau o rwydwaith Cynnwys Pobl Cymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am PARC, gallwch e-bostio:
rdcs_parc@swansea.ac.uk neu lawrlwythwch ein taflen.

I ymuno â PARC, llenwch ein ffurflen diddordeb aelodaeth, neu anfonwch e-bost atom am gopi.

Am ragor o wybodaeth am Rwydwaith Cynnwys Pobl, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (https://www.healthandcareresearch.gov.wales/involving-people-network/) neu e-bostiwch research-involvement@wales.nhs.uk

Gallwch ddilyn Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil De-orllewin Cymru ar Twitter:
https://twitter.com/rdcs_sww (does dim angen cyfrif Twitter i weld y dudalen hon)