Sut rydym yn gweithio
Gweithia Uned Treialu Abertawe (STU) gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ac ymchwilwyr i ddatblygu prosiectau ymchwil sy’n gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn uned treialon clinigol cofrestredig Cydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC) gyda gwybodaeth ac arbenigedd mewn dylunio a chynnal hap-dreialon aml-ganolfan o ansawdd uchel. Hefyd ymchwil arall sydd wedi’i dylunio’n dda megis astudiaethau carfan, ymchwil lled-arbrofol, ymchwil ansoddol ac arolygon. Byddwn yn eich helpu i benderfynu ar y cwestiwn dylunio ac ymchwil mwyaf priodol.
Cynllunio prosiect ymchwil
Croesawn gynigion i weithio mewn partneriaeth ar brosiectau ymchwil newydd fel cyd-ymgeiswyr. Os ydych yn paratoi i wneud cais am gyllid ac yn dymuno cynnwys ein staff yn eich tîm, yn gyntaf mae angen i chi anfon disgrifiad byr o’ch cynnig atom, trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Os hoffech gysylltu â ni cyn anfon eich cynnig, anfonwch e-bost
Ystyrir cynigion newydd gan Bwyllgor Gwaith yr STU sy’n cyfarfod yn rheolaidd. Os bydd y pwyllgor gwaith o’r farn bod trafodaeth bellach ar y cynnig yn cael ei hargymell, trefnir cyfarfod gyda chi i drafod sail wyddonol y cynnig a chynllun yr astudiaeth bosibl.
STU fel cyd-ymgeisydd
Mae unedau treialon clinigol yn ffactor pwysig mewn unrhyw gais am gyllid ymchwil. Ar gyfer treialon clinigol, mae’r rhan fwyaf o gyrff ariannu mawr yn disgwyl y byddwch yn cael eich cefnogi gan uned treialon clinigol cofrestredig.
Dylai cyfranogiad STU ddechrau ar y cam dylunio ymchwil. Mae cefnogaeth STU i geisiadau am arian yn gofyn am gynnwys uwch aelod o staff ac ystadegydd STU fel cyd-ymgeiswyr.
Os oes eisoes gennych gyllid ar gyfer eich prosiect ymchwil, caiff adolygiad a phenderfyniad ei wneud yn seiliedig ar ansawdd yr ymchwil a’r cyllid sydd ar gael a pha gymorth sydd ei angen. Ni all STU roi amcangyfrifon cost ar gyfer eich cynnig i chi oni bai ein bod wedi cadarnhau cyfranogiad ac wedi trafod eich cynnig gyda chi.
Sylwch fod STU yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau am gymorth a chaiff y rhesymau eu trafod gyda’r ymgeisydd.
Sut fedrwn ni eich helpu chi a’ch cais am arian?
- Canolbwyntio ar syniadau a mireinio’r cwestiwn (cwestiynau) ymchwil
- Adeiladu tîm ymchwil priodol
- Cynnwys cleifion a gofalwyr ym mhob cam o’r broses ymchwil
- Cynllun ymchwil cyffredinol, rheoli prosiectau, datblygu cronfeydd data a rheoli data, gofynion rheoleiddio
- Dewis a chymhwyso methodolegau ymchwil ar gyfer dull meintiol e.e. strategaeth, newidynnau annibynnol a dibynnol, dadansoddiad ystadegol
- Dewis a chymhwyso methodolegau ymchwil ar gyfer dull ansoddol e.e. cwmpas y dull dylunio, samplu, cymharu data a dadansoddi
- Dewis a chymhwyso amcanion a dulliau economaidd iechyd e.e. casglu data wedi’i deilwra, nodi dryswyr, techneg ddadansoddol.
- Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs)
- Sut i gynnal chwiliadau llenyddiaeth a chynnal adolygiadau systematig
- Nodi’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosiect llwyddiannus
- Nodi cyfleoedd ariannu addas
- Cyfeirio ymchwilwyr at ffynonellau eraill o arbenigedd a chymorth ymchwil, gan gynnwys nodi partneriaid ymchwil posibl