Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mewn grym o 25 Mai 2018. Mae’n nodi bod angen i sefydliadau fod yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw wrth reoli neu brosesu eich data personol.

Nid yw rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i ymchwil, er enghraifft, gellir storio data ar gyfer ymchwil am gyfnodau hir ac mae eithriadau eraill i rai hawliau mewn cyd-destun ymchwil lle mae mesurau diogelwch ar waith.

Mae gan Brifysgol Abertawe ganllawiau manwl ar y GDPR a gyda phwy i gysylltu os ydych chi am gwyno am sut mae’ch data wedi’i brosesu ar gael yma